Cymdeithas Coedwig Crychan


Cartref
Lleoliad
Map y Llwybrau
Mynediad a Digwyddiadau
Marchogu Ceffylau
Gyrru Cerbydau Ceffylau
Beicio
Cerdded
Cysylltiadau
Lletyau
Bwyd a Diod
Hanes
Llefydd Diddorol
Cysylltwch a ni
Amdanom Ni
Asesiad Risg

 

 

 

 

 

 

 

       
 
 

Cerdded

Mwynhawch yr heddwch yn y goedwig gyda'u nentydd, llenyrch a golygfeydd ar ein llwybrau cerdded. Mae gennym lwybrau cyfeirbwyntiedig rhwng 1 a 4 milltir yn rhedeg drwy rhai o'r rhannau mwyaf atyniadol o'n coedwig. Mae rhain i gyd yn addas i deulioedd. Mae rhodfa cyfeirbwyntiedig i'w gael o bob maes parcio. Edrychwch ar y bwrddiau am fwy o wybodaeth.

Nant yn y goedwig

Cerdded
Golygfa yn y goedwig

 

Llwybrau marchogaeth ceffyl a cherdded

Maes Parcio

Enw’r Llwybr

Hyd
Milltiroedd

Hyd
Kilomedroedd

Lliw

Discrifiad

Brynffo

Cwm Crychan

4.7

7.8

Coch

Cymerwch y llwybr troellog drwy’r goedwig i olygfan Gwm Crychan, gyda’r golygfeydd syfrdanol islaw dros ddyffryn Tywi. Yma gewch reilen clymu a bwrdd picnic.

Esgair Fwyog

Allt Cwmcrychan

3.8

6.4

Glas

Edrychwch ar y golygfeydd hirbell dros y porfeydd agored a gostwngwch i lawr i Gwm Crychan, cyn dringo allan o’r dyffryn ar hyd ffordd y goedwig.

Fferm Cefn

Cwm Dulais

6.4

10.6

Coch

Mwynhewch y golygfeydd o Gwm Dulais coediog a cheisiwch osgoi gwlychu wrth basio drwy’r tair rhyd.

Fferm Cefn

Cwar Cerrig

+2.2

+3.7

Glas

Rhowch gynnig ar yr estyniad yma i lwybr Cwm Dulais drwy ddringo dros dir uchel gyda golygfeydd ardderchog cyn esgyn i’r chwarel gerrig.

Halfway

Cefn Arthen

3.9

6.5

Coch

Dringwch gan bwyll o ddyfroedd Nant y Dresglen, gyda’r addewid o olygfeydd ardderchog o ochr orllewinol Bannau Brycheiniog.

Halfway

Cwm y Glyn

+3.7

+6.2

Glas

Dilynwch yr estyniad yma i lwybr Cefn Arthen ar hyd meysydd tanio’r Fyddin cyn troi’n ôl ar hyd y llwybr gyda’r golygfeydd da ar draws Cwm y Glyn.

Halfway neu Brynffo

Cefn Arthen- Cwm Crychan link

5.3

8.9

Gwyrdd

Dilynwch y ffordd gyswllt heibio i loches Babel a safle picnic a mwynhewch y golygfeydd ardderchog o ochr orllewinol Bannau Brycheiniog. Fedrwch godi signal argyfwng ffôn symudol yn y fan yma.

Rhaeadr

Rhaeadr yng Ngholedd Crychan

Llwybrau beicio a cherdded

Maes Parcio

Enw’r Llwybr

Hyd
Milltiroedd

Hyd Kilomedroedd

Lliw

Disgrifiad

Brynffo neu Esgair Fwyog

Brynffo - Esgair Fwyog

4.3

7.1

Melyn

Dilynwch y nant i lawr i Cwm Crychan ac yna mwynhewch y golygfeydd agored wrth gyrraedd Esgair Fwyog. Cwblhewch y cylch ar y ffordd gyhoeddus dawel.

Brynffo

Golygfa Epynt

+ 8.1

+ 13.5

Oren

Cymerwch yr estyniad i Brynffo – llwybr esgair Fwyog i fewn i ganol coedwig Crychan, gyda golygfeydd godidog dros Fryniau Epynt. Mae yna un ran fer oddi ar y ffordd ar y pwynt deheuol lle rydym yn eich cynghori i gerdded gyda’ch beic. Mae’r ffordd gyswllt yn ymuno â Ffordd Epynt.

Fferm Cefn

Cwm Coed Oeron

7.7

12.8

Oren

Dringwch yn araf bach drwy goedwigoedd hyfryd Gwm Dulais, a dewch yn ôl heibio ffermdy unig Cwm Coed Oeron.

Halfway

Allt Troedrhiw fer

2.4

4.0

Melyn

Dilynwch ffordd y goedwig dros ddyfroedd Nant y Dresglen cyn dychwelyd ar hyd ochr Allt Troedrhiw-fer. Mae’r ffordd gyswllt yn ymuno â Ffordd Epynt..

Halfway neuBrynffo

Allt Troedrhiw fer - Golygfa Epynt cyswllt

2.9

4.9

Gwyrdd

Dilynwch y ffordd cyswllt sydd yn cysylltu coedwigoedd Halfway a Crychan. Mwynhewch y golygfeydd bugeiliol dros Cwm Gwennol fel rydych yn ffri-wilio i lawr Cefn Arthen.

Llwybr cerdded

Y llwybr o fynediad Fferm Cefn

Llwybr Cerdded

Maes Parcio

Enw’r Llwybr

Hyd
Milltiroedd

Hyd Kilomedroedd

Lliw

Disgrifiad

Halfway

Nant y Dresglen

2.2

3.6

Glas Golau

Troellwch drwy’r coed sydd byth yn bell o ddyfroedd Nant y Dresglen ar y ffordd gylchol yma.

Golygfa Cwm Crychan

Gorffwys wrth Olygfa Cwm Crychan