Cymdeithas Coedwig Crychan


Cartref
Lleoliad
Map y Llwybrau
Mynediad a Digwyddiadau
Marchogu Ceffylau
Gyrru Cerbydau Ceffylau
Beicio
Cerdded
Cysylltiadau
Lletyau
Bwyd a Diod
Hanes
Llefydd Diddorol
Cysylltwch a ni
Amdanom Ni
Asesiad Risg

 

 

 

 

 

 

 

 

       
 
 
Logo Cymdeithas Coedwig Crychan

Lleolwyd Coedwig Crychan a Halfway mewn cefn gwlad anhygoel o brydferth rhwng Bannau Brycheiniog a'r Mynyddoedd Cambriaidd. Yma mae milltiroedd o lwybrau cyfeirbwyntiedig yn rhedeg trwy ceunentydd tawel, dros hen ffyrdd y porthmyn ac heibio rhaeadrau teg. Mae na olygfeydd arddunol o fynyddoedd canolbarth Cymru.

Mae'r Goedwig wedi’i leoli’n berffaith ger yr adwy i’r Mynyddoedd Cambriaidd, ar ffin parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ceir yno gwahaniaethau o goed o’r derw brodorol, ynn, ffawydd a’r cyll y goedwig hynafol wreiddiol, i’r conwydd mewnforiedig, sydd â’u prydferthwch eu hunain. Yn ddibynnol ar y tymor, mae’r lliwiau’n amrywio o gwyn gaeafol yr eirlysiau, arlliwiau melyn y cennin pedr a’r eithin, i’r olygfa ysblennydd o arlliwiau glas sydd wedi ei greu o filoedd o glychau’r gog, a’r ambr euraidd deiliant yr hydref.

Clychau'r Gog yn tyfu wrth ochr yn o'r llwybrau

Clychau'r Gog yn tyfu wrth ochr yn o'r llwybrau

Yr olygfa tuag at traphont Cynghordy

Yr olygfa tuag at traphont Cynghordy

Ceir milltiroedd o’r llwybrau cyfeirbwyntiedig sydd â golygfeydd syfrdanol yma, ar ffyrdd goedwig, sydd yn cael eu croesu fan hyn a fan draw gan hen lwybrau a ffyrdd porthmyn ac felly’n darparu amgylchedd diogel i farchogaeth, beicio a cherdded. Ers talwm fe ddefnyddwyd y ffyrdd i fynd a da byw drwy mynyddoedd gwyllt gorllewin Cymru ar y ffordd i Marchnad Smithfield yn Llundain. Fe ddilyn llwybrau ceffylau yr hen draciau tra fod y llwybrau beicio yn dilyn graddiant amrywiol ffyrdd y goedwig. Mae’r llwybrau i gyd yn agored i gerddwyr.

Efallai os fyddwch yn lwcus fe ddewch ar draws amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys barcutiaid coch, bodaod y mêl, gosogion, a llawer mwy o adar ac anifeiliaid ar y llwybrau yma sydd yn rhedeg dros y bryniau a drwy’r dyffrynnoedd coediog. Dichon y dewch ar draws adfeilion un o’r hen ffermdai wedi’u gorchuddio â iorwg a oedd ers talwm yn britho’r ardal.

Barcud

Barcud

Ardal Picnic Cwm Crychan

Ardal picnic golygfa Cwm Crychan

Mae yna bedwar safle derbynnydd ym Mhrynffo, Esgair Fwyog, Cefn Farm a Halfway, sydd â digon o le i barcio ceir a faniau ceffylau, gyda byrddau picnic, mannau corlannu a physt clymu ceffylau.

Ffordd Epynt: gallwch fynd mewn i Ffordd Epynt drwy dri lleoliad o lwybrau cyfeirbwyntio Coedwigoedd Crychan a Halfway. Mae hyn yn rhoi fwy o gyfle i archwilio’r ardal, mae tir agored y maes tanio milwrol yn darparu cyferbyniad i’r amgylchedd coedwigo. Ymwelwch â www.defence-estates.mod.uk/epyntway/

Epynt

Mynydd Epynt

 
   

 

Mwynhau Coedwig Crychan yn ddiogel

Warning Sign

Mae hon yn goedwig weithiol

Warning Sign

Fyddwch cystal â chymryd sylw o’r arwyddion diogelwch a dilynwch ddargyfeiriadau

Warning Sign

Arafwch i eraill sydd yn defnyddio’r llwybr

Warning Sign

Mae’r pyst cyfeirbwyntio wedi cael eu rhifo i’w wneud yn rhwyddach adnabod eich lleoliad mewn argyfwng

Warning Sign

Gall digwyddiadau wedi’u trefnu - megis ralïau ceir, marchogaeth a beicio mynydd cyfyngu ar fynediad i’r goedwig

Warning Sign

Am ragor o wybodaeth ffoniwch 0300 068 0300

 

Cyllid y prosiect gan

Logo Cyngor Sirol Caerfyrddin

 

Logo Undeb Ewropeaidd

 

Logo Amgylcheg Cymru
Logo Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Logo Arian i Bawb Cymru