Pa mor aml yr ydych chi wedi bod mewn lle gydach
fan ceffyl dim ond i ddarganfod ei fod yn anodd neu yn amhosib i
droi rownd? Yma yng Nghoedwig Crychan mae gennym bedwar maes parcio
gyda baeau arbennig o fawr i gerbydau gyda faniau ceffyl a pyst
clymu i wneud bywyd yn haws. Mae dau o'r meusydd parcio hyd yn oed
a mannau corlannu tywodlyd. Mae na hefyd fyrddiau picnic i chi ymlacio
gyda ffrindiau ac i sgwsio ar ol eich tro ar y ceffyl. Mae gwybodaeth
ym mhob maes parcio am y troeon y gellir gwneud o'r fan hynny.
Llwybrau marchogaeth ceffyl
a cherdded |
|
|
|
|
|
|
Brynffo |
Cwm Crychan |
4.7 |
7.8 |
Coch |
Cymerwch y llwybr troellog drwy’r goedwig i olygfan
Gwm Crychan, gyda’r golygfeydd syfrdanol islaw dros
ddyffryn Tywi. Yma gewch reilen clymu a bwrdd picnic. |
Esgair Fwyog |
Allt Cwmcrychan |
3.8 |
6.4 |
Glas |
Edrychwch ar y golygfeydd hirbell dros y porfeydd agored
a gostwngwch i lawr i Gwm Crychan, cyn dringo allan o’r
dyffryn ar hyd ffordd y goedwig. |
Fferm Cefn |
Cwm Dulais |
6.4 |
10.6 |
Coch |
Mwynhewch y golygfeydd o Gwm Dulais coediog a cheisiwch
osgoi gwlychu wrth basio drwy’r tair rhyd. |
Fferm Cefn |
Cwar Cerrig |
+2.2 |
+3.7 |
Glas |
Rhowch gynnig ar yr estyniad yma i lwybr Cwm Dulais drwy
ddringo dros dir uchel gyda golygfeydd ardderchog cyn esgyn
i’r chwarel gerrig. |
Halfway |
Cefn Arthen |
3.9 |
6.5 |
Coch |
Dringwch gan bwyll o ddyfroedd Nant y Dresglen, gyda’r
addewid o olygfeydd ardderchog o ochr orllewinol Bannau Brycheiniog. |
Halfway |
Cwm y Glyn |
+3.7 |
+6.2 |
Glas |
Dilynwch yr estyniad yma i lwybr Cefn Arthen ar hyd meysydd
tanio’r Fyddin cyn troi’n ôl ar hyd y llwybr
gyda’r golygfeydd da ar draws Cwm y Glyn. |
Halfway neu Brynffo |
Cefn Arthen- Cwm Crychan link |
5.3 |
8.9 |
Gwyrdd |
Dilynwch y ffordd gyswllt heibio i loches Babel a safle
picnic a mwynhewch y golygfeydd ardderchog o ochr orllewinol
Bannau Brycheiniog. Fedrwch godi signal argyfwng ffôn
symudol yn y fan yma. |