Cymdeithas Coedwig Crychan


Cartref
Lleoliad
Map y Llwybrau
Mynediad a Digwyddiadau
Marchogu Ceffylau
Gyrru Cerbydau Ceffylau
Beicio
Cerdded
Cysylltiadau
Lletyau
Bwyd a Diod
Hanes
Llefydd Diddorol
Cysylltwch a ni
Amdanom Ni
Asesiad Risg
Bwrdd Neges

 

 

 

 

 

 

 

       
 
 

Lletyau

Cysylltiadau i gyd yn agored mewn ffenestri newydd.

Ty Penywaun

Fe adnewyddwyd y ty fferm (Visit Wales 4*) yma yn 2009 ac mae mewn lleoliad prydferth drws nesaf i fferm gyda'g anifeiliaid, pedair milltir o dref Llanymddyfri a pellter bach o Goedwig Crychan ar droed. Mae gat dwbl mynediad y ty yn arwain i ardal parcio i'r blaen a gardd fawr amgaedig. Mae na batio i'r cefn gyda celfi gardd a barbecue (Ebrill i Hydref). Gall 8 o oedolion neu 7 o oedolion a 2 blentyn gysgu yno ac mae ganddo 5 ystafell wely, tri ystafell olchi a gwres canolog.

Lawr llawr, mae na gegin newydd gyda ffwrn trydan, microwave, ffwrn araf, steamer, periant golchi llestri, rhewgell, rhewgell ddwfn a peiriant golchi dillad. Yn yr ystafell fwyta mae na gadeiriau cyffwrddus i 9 o bobl o amgylch y bwrdd hir, hifi a radio DAB. Mae na le tan hanner cron gyda ffwrn fara a chimenea. Mae'r ystafell fyw yn dwym a chyffwrddus gyda sofas lledr gwyrdd a brown a lle tan cerrig gyda chanwyllau a chimenea haearn. Mae'r teledu sgrin fflat a Freeview, DVD a Playstation 2. Mae na ddwrs i'r ystafell olchi lawr llawr (cawod) a'r ty bach. Mae'r ystafell wely dwbl lawr llawr hefyd yn agor i'r ystafell olchi ond gall gael ei gloi pan mae eisiau. Mae yn addas i ymwelwyr sydd a anhawster cerdded. Lan lloft mae na bedwar ystafell wely a dau ystafell olchi.

 

Ty Penywaun
Babel
Llanymddyfri
Sir Gaerfyrddin
SA20 0AX

Ffon 02920 892155
Ebost penywaunhouse@aol.com
Gwefan www.merlincottages.co.uk

 

 

Danyparc
Gyrru cerbyd ceffyl yn Coedwig Crychan
Gyrru cerbyd ceffyl
Gyrru cerbyd ceffyl

Ty Gwesty a Stablau Dan-y-Parc
Cynghordy, Llandovery.

Mae Dan y Parc yn dy fferm a adeiladwyd yn yr 17fed ganrif. Lleolwyd mewn 14 acer o dir fferm a choedwig prydferth ar ffin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a'r Mynyddoedd Cambriaidd. Mae golygfeydd hirbell i'w cael o'r gwesty ac mae wedi ei addurno yn gyffwrddus. Mae'r ystafelloedd i gyd a theledu, ystafell ymolchi en-suite a modd i wneud te a coffi. Mae ystafell ymlacio y gwestai gyda'i nenfwd carfan pren a lle tan coed yn arwain i mewn i'r ystafell fwyta lle mae brecwast da llawn neu continental i'w gael. Mae cinio wedi ei baratoi gan ddefnyddio cynnyrch lleol ffres i'w gael ac mae bwyd llysieuol yn arbennigrwydd.

Stables
Welcome Host
Logo

Dewch a'ch ceffyl ar ei wyliau

Mae llety safon uchel i'w gael yma lle gall eich ceffyl ymlacio a mwynhau ei hun. Mae na bedwar stabl mawr a cae wedi ei ffensio gyda digon o le i barcio bocsys ceffyl. Dimond pellter bach sydd oddi yma i Fynedfa Cefn Coedwig Crychan. Mae croeso cynnes i yrwyr cerbyd ceffylau.

Ffôn 01550 720401
Gwefan www.danyparcholidays.co.uk

 

Bwyd Da, Gorffwys Cyffwrddys a Croeso Cynnes

Lasswade Hotel
Bwyty a Gwesty Cefngwlad Lasswade
Llanwrtyd, Powys

Ar ol dydd allan yn yr awyr agored yn marchoca, beicio neu cerdded, ymlaciwch o flaen tan coed pren, yn ein ystafell fyw cyfwrddus gyda wydr o win neu wisgi yn ein Gwesty Cefngwlad sydd a wyth ystafell gwely en-suite.

Lleolir Lasswade yn Llanwrtyd ym Mhowys, tref lleiaf Prydain. Mae Llanwrtyd yn enwog am Farchoca Merlynnod, Beicio Mynyddol a Cherdded Cefngwlad, ond mae yno hefyd llawer o Ddigwyddiadau arbenning yn ystod y flwyddyn.

Mae Lasswade yn agos i Goedwig Crychan a Ffordd Epynt.
Rydym hefyd yn enwog am ein Gyrru Cerbydau Ceffylau, Marchogaeth a Ralio.

Mae cyfleusterau yn y gwesty ac yn yr ardal lleol yn cynnwys:

  • Cenelau tu fewn - mae croeso i'ch ci hefyd

  • Cinio wedi ei bacio os gofynnwch amdano

  • Ystabalu dim ond cwarter milltir i ffwrdd gyda parcio da i lori neu trailer

  • Llogi Beiau a Siop Trwsio Beic Lleol

  • Garej cloi i'ch beiciau dros nos

  • Ystafell sychu i'ch dillad gwlyb

  • Parcio oddi ar heol

  • Siop Gornel a Garej Petrol

Ffôn 01591 610515
Gwefan www.lasswadehotel.co.uk